P-04-388 Diogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol ar gyfer ysgolion yng Nghymru.
Mae addoli ar y cyd yn ofynnol yn ôl y gyfraith ym mhob ysgol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac; mae’n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymchwilio i ysbrydolrwydd ac i ystyried materion bywyd; mae’n hyrwyddo lles corfforaethol ysgolion ac yn annog unigolion i lwyddo a, phan fydd siaradwyr allanol o’r gymuned leol yn cymryd rhan, mae’n hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol; mae’n atgyfnerthu agweddau cadarnhaol; mae’n rhoi ymwybyddiaeth o farn drwy’r byd yn ehangach a dealltwriaeth o’r farn honno i blant a phobl ifanc; mae’n gwella llythrennedd crefyddol
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Jim Steward
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 1 Mai 2012
Nifer y llofnodion: 3,915 (llofnodion electronig ac ar bapur)